top of page
Found Gallery

Found Gallery

Mae oriel Found Gallery wedi’i lleoli yng nghanol tref Aberhonddu ac mae’n cynnig safbwynt adfywiol, amrywiol a chalonogol o’r hyn y gall ac y dylai oriel gelf gyfoes fod. Mae'r rhaglen arddangos newidiol yn rhoi llwyfan i dalent greadigol newydd yn ogystal â rhai sefydledig.

Ar ôl bod â diddordeb erioed mewn celf gyfoes a serameg mae’r perchennog Punch Maughan wedi mwynhau datblygu gofod i arddangos gwaith artistiaid a gwneuthurwyr y mae hi wedi’u darganfod a’u cyfarfod dros y blynyddoedd diwethaf. Wedi'i gwasgaru dros ddau lawr mae'r oriel isaf yn aml wedi'i chysegru i ffotograffiaeth.

Mae’r oriel ar agor fel arfer 10yb – 4.30yh, dydd Mawrth – dydd Sadwrn.

​

Ar gyfer Dathliad o Beintiadau Cyfoes Cymreig 2024 bydd oriel Found Gallery yn dangos Diptych II, arddangosfa gan ddau artist:​

  • Sarah Hopkins

  • Nina Krauzewicz

A hefyd, yn rhan o'r arddangosfa gyffredinol:​​

  • Josie d'Arby 

  • Muhammad Atif Khan

​​

Cyfeiriad: Found Gallery, 1 Gwalch, Aberhonddu LD3 7LB​

Gwefan: www.foundgallery.co.uk

Ffôn: 07736 062849

Ebost: info@foundgallery.co.uk

bottom of page