top of page
Welsh Art

Dathliad o Beintiadau Cyfoes Cymreig 2024

Mae cynllunio wedi hen ddechrau ar gyfer y bedwaredd gyfres o arddangosfeydd ar draws gogledd, de, canolbarth a gorllewin Cymru, i ddathlu paentio cyfoes Cymreig, o fis Gorffennaf 2024. Mae nifer y lleoliadau sy’n cymryd rhan wedi cynyddu bob blwyddyn ers i’r ‘dathliad’ ddechrau yn 2017.

​

Fel mewn blynyddoedd blaenorol y nod yw rhoi gofod arddangos i rai o arlunwyr mwyaf arwyddocaol Cymru, y rhai sydd ar y gweill a gwaith o safon uchel gan fyfyrwyr mewn colegau a/neu ysgolion. Bydd ystod yr artistiaid yn cynyddu ynghyd â'r niferoedd, wrth i'r ffocws gael ei ehangu i gynnwys gwrthrychau gan gynnwys cerameg wedi'i phaentio, cerflunwaith a mwy. Ochr yn ochr â’r arddangosfeydd bydd cyfres o ddigwyddiadau cymunedol i bobl o bob oed.

​

Fel rhagflaenydd i’r prif ddigwyddiadau yn 2024/2025, mae cyfres o ddelweddau gan artistiaid sy'n ymddangos ym mhob oriel wedi'u hychwanegu at bob tudalen oriel ar y wefan hon, gan roi rhagflas o’r hyn sydd i ddod.

​

Rheolir Dathliad o Beintiadau Cyfoes Cymreig gan Grŵp Cynllunio sy’n cynnwys pob lleoliad sy’n cymryd rhan (ac eithrio Oriel y Dyfodol):

​

 

(Delwedd gefndir: Indira Mukherji a Grahame Hurd-Wood yn Oriel Y Parc, 2022)..

bottom of page