16 LLEOLIADAU . 100+ ARTISTIAID . DRAWS CYMRU
<meta name="msvalidate.01" content="F77781C4906BFF9DF8E53B844A263243" />
Dathliad o Beintiadau Cyfoes Cymreig
Nod y Dathliad o Beintiadau Cyfoes Cymreig yw dangos bywiogrwydd a thalent y bobl sy’n paentio yng Nghymru. Drwy gyfres o arddangosfeydd ar draws un-ar-bymtheg o leoliadau yng ngogledd, de, canolbarth a gorllewin Cymru, mae’r dathliad yn cynrychioli rhai o beintwyr mwyaf arwyddocaol Cymru, yn ogystal â'r rhai sydd wrthi’n ennill eu plwyf.
Mae’r dathliad bob dwy flynedd, sydd bellach yn cael ei gynnal am y pedwerydd tro, wedi tyfu i gynnwys mwy o leoliadau, gyda thros 100 o artistiaid yn cymryd rhan. Gan arddangos cerameg a cherfluniau wedi'u paentio, ochr yn ochr â pheintiadau mwy traddodiadol, mae'r dathliad yn arddangos amrywiaeth o artistiaid a chyfryngau, gan gynnwys gwaith myfyrwyr o golegau ac ysgolion. Mae'r amrywiaeth hwn o waith paentio yn dilyn y trywydd o'r dechrau ym myd addysg, yr holl ffordd hyd at yrfa lwyddiannus.
Diolch i'r Lleoliadau sy'n cymryd rhan ac i Elusen Margaret a Gwendoline Davies, am ei grant hael.
(Delwedd gefndir: Lewis Ryland yn Redhouse, 2022).